Lleoliad:
Fideo gynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 28 Ionawr 2021
Amser:
13.30 -
16.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11151
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Syr David Henshaw, Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd Dr Tim Peppin, Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd Peter Davies, Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd Aled Jones, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru Catherine McLaughlin, Cynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaeth Mewn Amaethyddiaeth (RUMA) Sue Pritchard, Y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad |
Staff y Pwyllgor: |
Elizabeth Wilkinson (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Katy Orford (Ymchwilydd) Lorna Scurlock (Ymchwilydd) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS.
2 Sesiwn dystiolaeth gyda’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd ac aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd.
3 Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon – sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru; Undeb Amaethwyr Cymru; a Chynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaeth Mewn Amaethyddiaeth (RUMA).
4 Papurau i’w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Gohebiaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22
4.2 Gohebiaeth gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2.
7 Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3.
8 Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd, ac yn amodol ar fân newidiad, cytunodd arno.
9 Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.